Fel rhan o drydydd cylch Cynllun Rheoli Basn Afon (2021-27) mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisiau bod yn fwy uchelgeisiol o ran ddarparu ansawdd dŵr a gwelliannau amgylcheddol o fewn dalgylch Afon Clwyd.
Rydym yn gofyn i'n partneriaid a'n rhanddeiliaid ein helpu i ganolbwyntio ein darpariaeth trwy ein helpu i nodi yn nalgylch Clwyd [gan gynnwys amgylcheddau morol ac aberol] lle gellir sicrhau'r buddion gorau ar gyfer ansawdd dŵr, yr amgylchedd a lles iechyd.
Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cydnabod cymeriad, harddwch a threftadaeth ddiwylliannol nodedig y dirwedd. Mae blaenddyfroedd Clwyd yn codi yng nghoedwig Clocaenog, gyda llednant fawr yr Elwy yn codi ym rhostiroedd Hiraethog.
Mae amaethyddiaeth yn dominyddu dalgylch gwledig y Clwyd i raddau helaeth. Ymhlith y trefi mawr mae Rhuthun, Dinbych, Llanelwy, a'r Rhyl lle mae twristiaeth a'r dyfroedd ymdrochi dynodedig yn bwysig i'r economi leol.
Gallwch edrych ar statws cyrff dŵr yn Nalgylch Clwyd ar Oriel Mapiau Gwylio Dŵr Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gasgliad o fapiau we sy'n gysylltiedig â'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yng Nghymru.
Trwy 'ychwanegu eich syniadau' isod gallwch helpu i ganolbwyntio Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu atebion rheoli dalgylch integredig, a chyflawni blaenoriaethau a nodwyd yn Natganiad Ardal Gogledd Ddwyrain Cymru a Datganiad Ardal y Gogledd Orllewin
Ychwanegwch eich 'syniadau' isod trwy glicio ar y botwm 'add'. Hoffem gael eich meddyliau ar ble mae'r blaenoriaethau; lle mae cyfle i wella ansawdd dŵr a sicrhau buddion amgylcheddol ac iechyd a lles ychwanegol. Mae croeso i chi ychwanegu sylwadau at y syniadau a grëwyd.
Dyma'ch Dalgylch Clwyd - 'Cael eich barn' a dywedwch wrthym sut y gallwn weithio'n well gyda'n gilydd.